NancyWILLIAMSGraig, Bethel, Bodorgan. Dymuna Lyn, Maldwyn, Helen, Sarah a'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a chefnogaeth a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen nain annwyl, am bob ymweliad, yr holl gardiau a'r galwadau ffôn. Diolch arbennig am y rhoddion hael a dderbyniwyd i'w rhannu rhwng Clwb Strôc Caergybi a Tŷ Gobaith, Conwy. Diolch i'r Parchedig Elizabeth Roberts am gynnal gwasanaeth teimladwy a chynnes iawn a hefyd i Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Y Fali am y trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates